Psalms 45

Priodas y brenin

I'r arweinydd cerdd:  Mascîl. Ar yr alaw "Y Lilïau" gan Feibion Cora. Cân serch.

1Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli.
Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin;
Mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol.
2Ti ydy'r dyn mwya golygus sydd,
ac mae dy eiriau mor garedig.
Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser.
3Gwisga dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr!
Dangos dy ysblander a dy fawredd.
4Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth!
Marchoga dros y gwir a thros gyfiawnder.
Trwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol!
5Bydd dy saethau miniog
yn trywanu calonnau dy elynion,
a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed.
6Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth;
a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg.
7Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni;
felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di
a thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.
8Mae arogl hyfryd myrr, aloes a casia
ar dy ddillad i gyd.
Mae offerynnau llinynnol o balasau ifori
yn cael eu canu i dy ddifyrru di.
9Mae tywysogesau ymhlith dy westeion,
ac mae dy briodferch yn sefyll wrth dy ochr,
yn gwisgo tlysau o aur coeth Offir.
45:9 Offir Does dim sicrwydd ble roedd Offir. Affrica neu India falle. Roedd aur Offir yn cael ei ystyried fel yr aur gorau.

10Clyw, o dywysoges!
Gwrando'n astud!
Anghofia dy bobl a dy deulu.
11Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch!
Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo.
12Bydd pobl gyfoethog Tyrus yn ceisio dy ffafr,
ac yn dod ag anrhegion i ti.
13Mae'r dywysoges yn anhygoel o hardd,
a'i gwisg briodas wedi ei brodio gyda gwaith aur manwl.
14Mae hi'n cael ei harwain at y brenin,
ac mae gosgordd o forynion yn ei dilyn,
i'w chyflwyno i ti.
15Maen nhw'n llawn bwrlwm wrth gael eu harwain
i mewn i balas y brenin.
16Bydd dy feibion yn dy olynu yn llinach dy hynafiaid,
ac yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad.
17Bydda i'n coffáu dy enw di ar hyd y cenedlaethau,
a bydd pobloedd yn dy ganmol di am byth bythoedd.
Copyright information for CYM